P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sam Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 6,317 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'n ffaith hysbys bod golff, a gweithgarwch corfforol o ran hynny, yn gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol! Mae golff ymysg yr ychydig chwaraeon y gallwch chi gymryd rhan ynddynt a bod yn ddiogel yr un pryd trwy gadw pellter cymdeithasol, ac o ystyried y ffocws cyfredol ar iechyd meddwl, nid wyf yn credu ei bod yn benderfyniad doeth amddifadu rhai pobl o’r unig fath o ymarfer corff sydd ganddynt.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Merthyr Tudful a Rhymni
· Dwyrain De Cymru